Dyddiad yr Adroddiad

12/01/2026

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202507966

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr B fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe wedi methu ymateb i’w gŵyn am y gofal a’r driniaeth a roddwyd i’w fam.

Canfu’r Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi methu ymateb i gŵyn Mr B, a ailagorwyd. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Mr B. Penderfynodd yr Ombwdsmon ddatrys y gŵyn heb ymchwiliad.

Gofynnodd yr Ombwdsmon i’r Bwrdd Iechyd ysgrifennu at Mr B yn ymddiheuro am yr oedi, yn cynnig talu £75 i gydnabod yr amser a dreuliodd Mr B a’r drafferth yr aeth iddi yn gwneud cwyn i’r Ombwdsmon, ac yn ymateb i’r gŵyn o fewn 2 wythnos. Cytunodd y Bwrdd Iechyd i wneud hynny.