Dyddiad yr Adroddiad

06/11/2025

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Pwnc

Triniaeth glinigol mewn ysbyty

Cyfeirnod Achos

202503996

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Miss A am y gofal a’r driniaeth mamolaeth a’r cyfathrebu a ddarparwyd gan y Bwrdd Iechyd ym mis Medi 2024 ac am weinyddiaeth ei chofnodion meddygol.

Canfu’r Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi rhoi ymateb i Miss A i’w chŵyn am gyfathrebu a gofal a thriniaeth mamolaeth. Fodd bynnag, nid oedd wedi ymateb i bryderon penodol Miss A ynghylch ei rhyddhau o’r gwasanaeth na gweinyddiaeth ei chofnodion meddygol.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i roi ymateb i Miss A i’w chwynion nad oedd wedi’i rhyddhau’n ffurfiol o’r gwasanaeth ac ynghylch y ffordd yr oedd wedi ymdrin â’i chofnodion meddygol. Cytunodd y Bwrdd Iechyd i ddarparu’r ymateb o fewn 4 wythnos.