Cwynodd Mr D am y gofal a’r driniaeth a ddarparwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe i’w fam, Mrs E, wrth wneud diagnosis o ganser yr endometriwm. Ystyriodd yr Ombwdsmon a oedd ymchwiliadau a thriniaeth, a gynhaliwyd rhwng Hydref 2021 a Mawrth 2022, yn ddigonol ac yn amserol, ac a oedd ymchwiliadau a thriniaeth, a gynhaliwyd yn dilyn yr atgyfeiriad brys oherwydd amheuaeth o ganser (“USC”) gan y Meddyg Teulu ym mis Chwefror 2023, yn ddigonol ac yn amserol.
Cadarnhaodd yr Ombwdsmon y ddwy gŵyn. Canfu’r ymchwiliad fod methiant i ystyried a dilyn canfyddiadau’r adroddiad histoleg ym mis Hydref 2021 yn ddigonol. Roedd hyn yn golygu nad oedd penderfyniadau ynghylch gofal Mrs E ar y pryd wedi’u llywio gan wybodaeth glinigol ddibynadwy. O ganlyniad, collodd y cyfle i gael gofal gwell. Canfu’r ymchwiliad hefyd, o’r pwynt y cafodd yr USC ei gyfeirio ym mis Chwefror 2023, fod oedi annerbyniol wedi bod wrth ymchwilio i symptomau Mrs E. Roedd hyn yn golygu bod diagnosis canser Mrs E wedi’i ohirio am sawl mis, ac y gellid fod wedi osgoi hynny. O ganlyniad, collodd Mrs E y cyfle i gael ymyrraeth a thriniaeth gynharach a allai fod wedi cael effaith sylweddol ar yr opsiynau oedd ar gael ar gyfer rheoli a thrin ei chanser.
Derbyniodd y Bwrdd Iechyd argymhellion yr Ombwdsmon, a oedd yn cynnwys ymddiheuriad a thaliad iawndal ariannol o £1,000 i Mrs E a nifer o gamau gwella gwasanaeth i fynd i’r afael ag achosion yr oedi yn ei hachos.