Dyddiad yr Adroddiad

13/10/2025

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Pwnc

Triniaeth glinigol mewn ysbyty

Cyfeirnod Achos

202504101

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr X ynglŷn â’r driniaeth a gafodd Mrs X tra yn yr ysbyty a sut nad oedd ei bryderon wedi cael sylw yn ymateb y Bwrdd Iechyd.

Canfu’r Ombwdsmon, er bod y Bwrdd Iechyd wedi ymateb, fod diffyg manylion yn yr ymateb ac nad oedd yn mynd i’r afael yn uniongyrchol â’r pryderon a godwyd gan Mr X. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi ansicrwydd a rhwystredigaeth i Mr X. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i, o fewn 4 wythnos, gynnig ymddiheuriad i Mr X am beidio â mynd i’r afael â’i bryderon yn yr ymateb i’r gŵyn ac egluro pam y digwyddodd hyn. Cytunodd y Bwrdd Iechyd hefyd i gyhoeddi ymateb newydd i’r gŵyn a fydd yn mynd i’r afael â phryderon Mr X.