Dyddiad yr Adroddiad

30/10/2025

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Pwnc

Triniaeth glinigol mewn ysbyty

Cyfeirnod Achos

202501479

Canlyniad

Setliadau gwirfoddol

Cwynodd Miss S am y gofal a ddarparwyd i’w thad, Mr L, yn ystod ei dderbyniad i’r ysbyty ym mis Mai 2024. Dechreuodd yr Ombwdsmon ymchwiliad i weld a gafodd risg Mr L o sepsis ei chydnabod a’i rheoli’n briodol, ac a gafodd ei sepsis ei ddiagnosio’n brydlon. Wrth ymateb i’r Ombwdsmon ynghylch y cwynion a oedd yn destun ymchwiliad, cadarnhaodd y Bwrdd Iechyd ei fod wedi nodi oedi yn yr ymchwiliad i’r posibilrwydd bod gan Mr L sepsis ac yn ei driniaeth unwaith y cafodd sepsis ei ganfod.

Cytunodd y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro’n ffurfiol i Miss S am y methiannau a nodwyd ganddo ac amlinellu pa fesurau y byddai’n eu gweithredu i atal methiannau tebyg rhag digwydd yn y dyfodol. Cytunodd hefyd i anfon y mater hwn ymlaen at ei dîm Iawndal i ystyried a achosodd y methiannau hynny niwed i Mr L ac i ba raddau, gan ddilyn proses sy’n unol â gofynion o dan reoliad 26 o Reoliadau Pryderon, Cwynion ac Iawndal y GIG (Cymru) 2011.

Ystyriodd yr Ombwdsmon ei bod yn briodol setlo’r gŵyn ar sail y camau gweithredu hyn.