Cwynodd Mrs X bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe wedi methu ymateb i’r gŵyn a gyflwynodd ym mis Mawrth 2025.
Canfu’r Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi methu ymateb yn ffurfiol i’r gŵyn. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi ansicrwydd a rhwystredigaeth i Mrs X. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a sicrhaodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ddarparu ymateb i’r gŵyn, o fewn 4 wythnos, a fydd yn cynnwys ymddiheuriad ac esboniad am yr oedi a chynnig taliad iawndal o £50 i gydnabod yr oediadau.