Roedd Mrs A yn bryderus bod haint ar y clwyf a ddatblygodd yn ei gafl yn dilyn llawdriniaeth i dynnu rhwyll y wain yn ganlyniad y gofal a’r rheolaeth a dderbyniodd yn dilyn y llawdriniaeth. Roedd ymchwiliad yr Ombwdsmon yn canolbwyntio ar a oedd y gofal ôl-lawdriniaethol a ddarparwyd i Mrs A rhwng 23 a 27 Awst 2023 (pan gafodd ei rhyddhau) yn briodol yn glinigol.
Canfu ymchwiliad yr Ombwdsmon bod y gofal a’r rheolaeth a dderbyniodd Mrs A fel claf mewnol, gan gynnwys tynnu ei draeniau, yn briodol yn glinigol. Roedd y penderfyniad i’w rhyddhau hefyd o safon glinigol dderbyniol, oherwydd roedd Mrs A yn sefydlog yn glinigol a’r feddyginiaeth a ragnodwyd ar ei chyfer pan gafodd ei rhyddhau yn addas. Canfu’r Ombwdsmon bod haint ôl-lawdriniaethol yn gymhlethdod anffodus ond cydnabyddedig a oedd yn gysylltiedig â’r llawdriniaeth a dderbyniodd Mrs A ac na chafodd ei achosi gan unrhyw ddiffygion yn y gofal a ddarparwyd gan y Bwrdd Iechyd. Ni chadarnhawyd y gŵyn.