Cwynodd Mr a Mrs A fod y Bwrdd Iechyd wedi oedi wrth gynnig apwyntiad i Mr A drafod canlyniadau ei sgan am ganser y colon a’r rhefr. Roedd newydd orffen ei driniaeth a chynhaliwyd y sgan ar ôl y driniaeth ym mis Ionawr 2024. Yn wreiddiol, cynigiwyd apwyntiad iddo ym mis Ebrill ac, er bod hyn wedi’i newid wedi hynny i apwyntiad cynharach, ni hysbyswyd Mr A o ganlyniadau’r sgan (a ddangosodd fod y canser wedi lledu) nes 20 Mawrth. Yn anffodus, bu Mr A farw yn ystod yr ymchwiliad i’w gŵyn.
Cadarnhaodd yr Ombwdsmon y gŵyn fod oedi wedi bod wrth gynnig apwyntiad i Mr A i drafod canlyniadau ei sgan am ganser y colon a’r rhefr. Er na wnaeth yr oedi effeithio ar ganlyniad clinigol Mr A, byddai wedi ychwanegu straen ac ansicrwydd diangen ar adeg a oedd yn anodd iawn yn barod. Dylai hefyd fod wedi cael gwybod bod ei ganser wedi lledu cyn gynted â phosib. Cytunodd y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro i Mrs A am y methiannau a nodwyd, ac, o fewn 3 mis, i adolygu ei system weinyddol oncoleg i sicrhau ei bod yn ddigon cadarn i dynnu sylw at gleifion sydd heb fynychu ymgynghoriad adolygu yn dilyn trafodaeth amlddisgyblaethol (MDT).