Dyddiad yr Adroddiad

21/07/2025

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202407027

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Mynegodd Mrs A bryder nad oedd staff wedi asesu a rhoi triniaeth briodol i wlserau ar goes ei mam (Mrs B) ar ôl iddi gael ei derbyn i’r ysbyty. Roedd yr wlserau hyn wedi bod yn cael eu rheoli’n dda gartref cyn hyn drwy ymweliadau dyddiol gan y nyrsys ardal. Roedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe (“y Bwrdd Iechyd”) wedi derbyn rhai diffygion yn y gofal wlserau coes, ond roedd yn credu nad oedd unrhyw niwed wedi deillio o’r rhain.

Yn dilyn y gŵyn i’r Ombwdsmon, ailystyriodd y Bwrdd Iechyd ei benderfyniad cychwynnol nad oedd unrhyw niwed wedi’i achosi i Mrs B. Roedd hyn o ganlyniad i ffotograffau gan yr adran Nyrsys Ardal a ddarparwyd gan Mrs A. Ar sail y rhain, cyfeiriodd y Bwrdd Iechyd y materion a godwyd at ei Adran Gyfreithiol dan y broses gwneud iawn. O ganlyniad, ni wnaeth yr Ombwdsmon ystyried agweddau clinigol y gŵyn hon. Fodd bynnag, nododd yr Ombwdsmon fod cyfathrebu gwael â Mrs A ynglŷn â’i chŵyn, a methiant y Bwrdd Iechyd i gael ac i ystyried gwybodaeth berthnasol (ffotograffau clinigol Nyrsys Ardal) wrth ymchwilio i’r gŵyn wedi achosi oedi diangen ac wedi gwneud y gŵyn yn fwy. Roedd y ffaith nad oedd staff nyrsio Hyfywedd Meinwe ar gael hefyd yn achos pryder. Gan gydnabod bod y broses o ymdrin â chŵyn Mrs A ac ymchwilio iddi wedi bod yn wael, cadarnhaodd yr Ombwdsmon y gŵyn.

Gwnaeth yr Ombwdsmon nifer o argymhellion, gan gynnwys y dylai’r Bwrdd Iechyd:

· Gyflwyno ymddiheuriad ysgrifenedig i Mrs A.

· Adolygu ei ddarpariaeth nyrsio Hyfywedd Meinwe bresennol.

· Adolygu’r modd yr ymdriniwyd â’r gŵyn yn yr achos hwn er mwyn sicrhau bod pob gwybodaeth briodol sy’n gymesur ag ymchwiliad i gŵyn yn cael ei chasglu cyn dod i benderfyniad.