Cwynodd Mrs A fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe (“y Bwrdd Iechyd”) wedi methu â dilyn y gweithdrefnau cywir pan ddaeth â’i merch fach i ysbyty Treforys. Roedd gan ei merch farc ar ei boch. Dywedodd Mrs A na ddylid bod wedi cysylltu â’r Gwasanaethau Cymdeithasol nes bod ymchwiliadau priodol wedi’u cwblhau.
Wrth ystyried y gŵyn, canfu’r Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd eisoes wedi derbyn ac wedi cymryd camau i fynd i’r afael â rhai diffygion wrth gyfathrebu â Mrs A. Fodd bynnag, nid oedd taflen wybodaeth ffurfiol ar ddiogelu plant ar gael i rieni.
O ganlyniad, cytunodd y Bwrdd Iechyd i greu taflen wybodaeth i rieni o fewn 2 fis,.