Bu i Mrs C gwyno am y gofal a ddarparwyd i’w gwr, Mr C, gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe (“y Bwrdd Iechyd”) pan oedd yn glaf mewnol yn Ysbyty Treforys. Yn benodol, a gafodd cathetr Mr C ei reoli’n briodol rhwng mis Medi a mis Rhagfyr 2022.
Er bod llawer o agweddau ar ofal a rheolaeth cathetr Mr C yn briodol, canfu’r Ombwdsmon fod achosion o ddiffygion o ran dogfennu, monitro a rheoli cathetr Mr C rhwng mis Medi a mis Rhagfyr 2022 a allai fod wedi cyfrannu at gynyddu’r risg o heintiau’r llwybr wrinol. Parodd y methiant gwasanaeth hwn anghyfiawnder i Mr C. Felly, bu i’r Ombwdsmon gadarnhau’r gwyn.
Cytunodd y Bwrdd Iechyd ag argymhellion yr Ombwdsmon fel a ganlyn: darparu ymddiheuriad ysgrifenedig i Mr a Mrs C am y diffygion a bennwyd; llunio a gweithredu gweithdrefn Cydbwysedd Hylif a Hydradu a phroses archwilio i sicrhau bod y weithdrefn yn cael ei dilyn, os nad yw’r rhain eisoes ar waith; rhoi proses archwilio ar waith i fonitro a yw hyfforddiant blynyddol o ran cathetrau ac o ran cydbwysedd hylif yn cael ei gwblhau; llunio a gweithredu proses i asesu defnydd cleifion o falfiau cathetrau i sicrhau bod modd dangos yr asesiad o gymhwysedd cleifion yn fwy cadarn; a gweithredu Rhybudd Diogelwch Mewnol ac addysg wedi’i thargedu o ran clampio cathetrau wrinol i ailadrodd polisi’r Bwrdd Iechyd.