Dyddiad yr Adroddiad

11/03/2025

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202407704

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr W am y driniaeth a gafodd pan aeth i’r ysbyty gydag amheuaeth o sepsis. Dywedodd ei fod wedi cwyno wrth Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe (“y Bwrdd Iechyd”) ynghylch hyn, ond nad oedd y Bwrdd wedi rhoi sylw llawn i’w holl bryderon.

Canfu’r Ombwdsmon, er bod y Bwrdd Iechyd wedi cyhoeddi ymateb i gŵyn Mr W, fod rhagor o ymholiadau wedi’u codi ers hynny nad oedd wedi cael sylw eto.
Ceisiodd, a chafodd, yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd y byddai’n rhoi ymateb llawn i bryderon Mr W o fewn 1 mis.