Dyddiad yr Adroddiad

27/02/2025

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202308136

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cafwyd cwyn gan Mrs C am y gofal a’r driniaeth a gafodd ei diweddar fam, Mrs A, gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe pan gafodd ei derbyn i Ysbyty Singleton rhwng 11 Mai a 17 Mehefin 2022. Fe wnaeth yr ymchwiliad ystyried y canlynol:
a) a oedd anghenion maeth Mrs A wedi’u diwallu
b) a oedd y dos o lorazepam a ragnodwyd yn ystod arhosiad Mrs A yn briodol yn glinigol
c) a oedd y gofal ymataliaeth a ddarparwyd o safon resymol, gan gynnwys a oedd carthyddion wedi cael eu rhagnodi cyn i Mrs A gael ei rhyddhau
Canfu ymchwiliad yr Ombwdsmon fod rhai methiannau mewn perthynas ag anghenion maeth a gofal ymataliaeth Mrs A, a chadarnhaodd yr elfennau hyn yng nghwynion Mrs C. Ni chanfu’r ymchwiliad dystiolaeth fod carthyddion wedi cael eu rhoi ar bresgripsiwn i Mrs A wrth iddi gael ei rhyddhau o’r ysbyty.  Roedd yr Ombwdsmon yn fodlon gydag esboniad y Bwrdd Iechyd fod y cynnydd yn nos lorazepam Mrs A yn briodol oherwydd ei bod wedi drysu ac yn aflonydd. Felly, ni wnaethom gadarnhau’r elfen hon yn y gŵyn . Roedd yr Ombwdsmon yn falch o nodi bod y Bwrdd Iechyd eisoes wedi rhoi mesurau ar waith i fynd i’r afael â’r dogfennu a’r gofal gwael sydd wedi cael eu nodi. Pe na bai wedi gwneud hynny, byddai’r rhain wedi bod yn rhan o’r argymhellion.
Argymhellodd yr Ombwdsmon y dylai’r Bwrdd Iechyd ymddiheuro eto i Mrs C am y methiannau a nodwyd gan yr ymchwiliad a rhoi tystiolaeth i’r swyddfa hon o’r camau a gymerwyd i fynd i’r afael â’r diffygion clinigol a dogfennol.