Dyddiad yr Adroddiad

16/12/2024

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202400450

Canlyniad

Ni Chadarnhawyd

Cwynodd Dr C am y gofal a’r driniaeth a ddarparwyd i’w wraig, Dr E. Yn benodol, roedd Dr C yn bryderus a gynhaliwyd y profion cardiolegol priodol pan aeth Dr E i’r ysbyty ym mis Gorffennaf 2023.

Canfu’r ymchwiliad fod y gofal priodol wedi’i ddarparu i Dr E. Pan aeth Dr E i’r ysbyty, cafodd ei hasesu’n drylwyr a cheisiwyd barn cardiolegydd ynghylch ei thriniaeth.

Ni chadarnhaodd yr Ombwdsmon y gŵyn hon.