Dyddiad yr Adroddiad

02/12/2024

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202308769

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Mrs C ar ran ei gŵr, Mr C, am y gofal a’r driniaeth a gafodd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe mewn perthynas ag oedi cyn cael diagnosis a thriniaeth ar gyfer canser y geg, yn dilyn atgyfeiriad Amheuaeth o Ganser Brys ar 24 Chwefror 2023. Fe wnaeth yr ymchwiliad ystyried a oedd ymchwiliadau ac asesiadau diagnostig annigonol yn dilyn yr ymgynghoriad cyntaf ar 7 Mawrth, a wnaeth arwain at ddiagnosis anghywir a thriniaeth ddigramennu amhriodol ar 28 Mawrth. Fe wnaeth yr ymchwiliad hefyd ystyried a oedd oedi o ran asesiadau diagnostig dilynol a chael canlyniadau, a wnaeth beri oedi pellach i ddiagnosis Mr C o ganser y geg ac achosi oedi o ran triniaeth drwy lawdriniaeth.

Canfu’r Ombwdsmon fod yr ymchwiliadau clinigol a’r asesiadau diagnostig yn dilyn ymgynghoriad cyntaf Mr C ar 7 Mawrth yn briodol ac yn rhesymol. Canfuwyd bod y driniaeth dadgramennu yn briodol, a gofynnwyd am asesiadau diagnostig a’u cynnal o fewn amserlenni priodol. Ni chafodd yr agweddau hyn ar y gŵyn eu cadarnhau. Fodd bynnag, bu oedi cyn rhoi gwybod am histoleg y biopsi ac oedi yn yr amserlen ar gyfer llawdriniaeth. Er nad oedd yr oedi wedi arwain at unrhyw effaith ar y prognosis cyffredinol na’r canlyniad i Mr C, roedd y trallod a achoswyd gan yr arhosiad hir, a’r ffaith bod y driniaeth lawfeddygol yn fwy helaeth nag y gallai fod wedi bod fel arall, yn anghyfiawnder i Mr C. Fe wnaeth yr Ombwdsmon gadarnhau’r rhan hon o’r gŵyn. Argymhellodd yr Ombwdsmon y dylai’r Bwrdd Iechyd ymddiheuro am y methiannau a nodwyd; adolygu ei ganllawiau/gweithdrefn o ran amserlenni ar gyfer adrodd a dychwelyd patholeg biopsi; rhannu’r adroddiad â chlinigwyr yn yr arbenigedd Pen a Gwddf; a rhoi tystiolaeth i’r Ombwdsmon o’r gwelliannau yn yr amseroedd triniaeth presennol a nodwyd gan y Bwrdd Iechyd.