Dyddiad yr Adroddiad

11/02/2022

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202103559

Canlyniad

Rhoddwyd y gorau

Cwynodd Mr B am nad oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe wedi gwneud diagnosis amserol o’i hernia Spigelian a bod hyn wedi arwain at oedi cyn iddo gael triniaeth.

Daethpwyd â’r ymchwiliad i ben gan fod Mr B wedi cael cynnig dyddiad ar gyfer y driniaeth a’i fod yn teimlo bod hynny’n datrys ei gŵyn i raddau. Ar ôl ystyried yr hyn oedd gan Mr B i’w ddweud ynghyd â’r dystiolaeth oedd ar gael, daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad y dylid cau’r ymchwiliad gan na fyddai’n gymesur i barhau â’r ymchwiliad.