Dyddiad yr Adroddiad

08/11/2022

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202201676

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs X am y diffyg cyfathrebu gan y Bwrdd Iechyd ynghylch y gofal a’r prognosis a gafodd ei gŵr. Oherwydd hyn, nid oedd wedi bod yn bosibl iddi dreulio amser gyda’i gŵr ar ddiwedd ei oes.
Canfu’r Ombwdsmon fod methiannau yn y modd yr oedd y Bwrdd Iechyd wedi cyfathrebu â Mrs X. Gofynnodd i’r Bwrdd Iechyd gytuno y byddai yn gwella’r modd y mae yn cyfathrebu â pherthnasau, yn enwedig mewn achosion o ofal diwedd oes. Cytunodd y Bwrdd Iechyd i gymryd nifer o gamau i atgoffa staff am bwysigrwydd gwahodd perthnasau i’r Adran Achosion Brys.
Roedd hyn yn cynnwys defnyddio posteri i annog staff i siarad â’r teulu os oedd gan y claf benderfyniad DNAR (peidiwch â cheisio adfywio cardio-pwlmonaidd) ar waith neu os oedd ar y llwybr diwedd oes.
Cytunodd y Bwrdd Iechyd i ddarparu tystiolaeth ei fod wedi cymryd y camau hyn o fewn 20 diwrnod gwaith.