Dyddiad yr Adroddiad

10/12/2023

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202300044

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms A am y gofal a’r driniaeth a ddarparwyd i’w thad pan oedd yn yr ysbyty. Roedd o’r farn i’w thad gael ei ryddhau’n rhy gynnar ac nad oedd y teulu yn ymwybodol o raddau llawn ei gyflwr. Er i’r Bwrdd Iechyd ymateb i’w chwyn, ar ôl derbyn cofnodion meddygol ei thad, dywedodd bod hyn wedi achosi i gwestiynau pellach godi ynglŷn â’i ddirywiad cyffredinol, ei ddiet, ei ddiagnosis, ei ryddhau a dulliau cadw cofnodion y Bwrdd Iechyd.

Roedd yr Ombwdsmon yn bryderus i nodi pryderon pellach Ms A ac roedd o’r farn y byddai’n ddefnyddiol iddi gael ymateb. Fel dewis arall yn lle ymchwilio i’r gŵyn, gwnaeth yr Ombwdsmon argymhelliad y cytunodd y Bwrdd Iechyd i’w weithredu.

Cytunodd y Bwrdd Iechyd i adolygu’r cofnodion meddwl a darparu ymateb i bryderon ychwanegol Ms A o fewn 20 diwrnod gwaith.