Dyddiad yr Adroddiad

08/18/2022

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202200924

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms X i’r Ombwdsmon am agweddau ar y gofal a ddarparwyd i’w thad fel claf mewnol. Mynegodd bryder hefyd ynghylch y ffordd yr aeth y Bwrdd Iechyd ati i ymdrin â’i chwyn.
Ar ôl ystyried yr agweddau ar y gŵyn yn ofalus, penderfynodd yr Ombwdsmon beidio ag ymchwilio i pwyntiau penodol y gŵyn a godwyd. Fodd bynnag, nododd yr Ombwdsmon fod diffyg eglurder ar un agwedd (trosglwyddo cofnodion) o’r ymateb i gŵyn a ddarparwyd gan y Bwrdd Iechyd.
I gydnabod hyn, cytunodd y Bwrdd Iechyd i:
• Ymddiheuro’n ysgrifenedig i Ms X am y diffyg eglurder yn ei hymateb i’r gŵyn ynghylch trosglwyddo cofnodion.
• Gwneud taliad ex gratia o £250 i Ms X am unrhyw drallod ychwanegol a achoswyd gan y camgymeriad hwn.
Cytunodd y Bwrdd Iechyd i wneud hyn o fewn 6 wythnos o ddyddiad y llythyr hwn.