Dyddiad yr Adroddiad

06/28/2022

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202003081

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Mrs A am reolaeth y Bwrdd Iechyd (“y Bwrdd Iechyd”) o’i chyfnod esgor ym mis Mawrth 2020 ar ôl i sgan ganfod bod ei babi’n fawr ar gyfer y dyddiad geni oedd wedi’i roi. Dywedodd Mrs A fod y Bwrdd Iechyd wedi methu â’i chynghori’n iawn am yr opsiynau ar gyfer yr enedigaeth, wedi methu gwrando arni, wedi methu â darparu gofal empathig a oedd yn dangos parch ac wedi methu â lleddfu’r boen yn effeithiol, ac wedi methu â gwneud toriad Cesaraidd (“CS”) yn gynharach pan nodwyd hynny.

Canfu’r Ombwdsmon nad oedd dim arwyddion clinigol ar gyfer gwneud toriad Cesaraidd yn gynharach. Fodd bynnag, nid oedd digon o dystiolaeth bod Mrs A wedi cael ei chynghori’n briodol am y risgiau a’r manteision sy’n gysylltiedig â rhoi genedigaeth drwy’r wain a dewisiadau eraill ar gyfer gofal gyda babi yr amheuir ei fod yn faban mawr ar gyfer y dyddiad geni a oedd wedi’i roi. Cafodd Mrs A gryn dipyn o anawsterau yn ystod ei chyfnod esgor y gellid bod wedi’u hosgoi gyda thoriad Cesaraidd dewisol cynharach. Roedd y diffyg cyngor priodol wedi achosi ansicrwydd ynghylch ei gallu i wneud dewisiadau am ei gofal ar sail gwybodaeth.

Nid oedd yr Ombwdsmon yn gallu cysoni profiad Mrs A o boen erchyll yn ystod ei chyfnod esgor â’r dystiolaeth o gofnodion y Bwrdd Iechyd a roddodd adroddiad cyson fod y boen wedi’i rheoli’n dda gan yr holl glinigwyr a oedd yn gysylltiedig â’i gofal. Fodd bynnag, roedd tystiolaeth o adegau pan oedd Mrs A wedi dweud ei bod mewn poen pan roedd y broses esgor wedi’i chadarnhau ac nad oedd cymorth ychwanegol gyda nwy ac aer wedi’i roi pan allai hynny fod wedi digwydd. O ganlyniad, roedd cyfnod esgor Mrs A yn fwy poenus nag yr oedd angen iddo fod.

Argymhellodd yr Ombwdsmon i’r Bwrdd Iechyd y dylai ymddiheuro i Mrs A am y methiannau a nodwyd, rhannu’r canfyddiadau â’i obstetryddion a’i fydwragedd ar gyfer dysgu yn y sefydliad, a chymryd camau i sicrhau bod pob mam feichiog sydd â babi y tybir ei fod yn faban mawr yn cael cyngor priodol am ei dewisiadau geni.