Cwynodd Ms A am y gofal a dderbyniodd ei mab, B, pan oedd yn glaf ar y Ward Newydd-anedig yn Ysbyty Singleton. Ystyriodd yr ymchwiliad a oedd caniwla prifwythiennol / llinell brifwythiennol ymylol (“llinell brifwythiennol”) B wedi cael ei osod, ei gynnal a’i fonitro’n briodol, ac a oedd y weithdrefn samplo brifwythiennol (y broses o gymryd sampl gwaed) a’r weithdrefn fflysho (fflysho hylif trwytho i atal y llinell brifwythiennol rhag ceulo) hefyd wedi eu cyflawni i’r safon glinigol briodol. Yn ogystal, a allai achos clinigol yr anaf isgemig aciwt (anaf wedi’i achosi gan leihad yn llif y gwaed) fod wedi cael ei gadarnhau’n bendant. Yn olaf, a oedd unrhyw wallau ffeithiol yn yr Adroddiad Digwyddiad Difrifol (“SIR” – ymchwiliad a wneir drwy broses y Bwrdd Iechyd o ymchwilio i ddigwyddiadau difrifol).
Casglodd yr ymchwiliad fod y llinell brifwythiennol wedi’i gosod, cynnal a’i monitro a bod y weithdrefn fflysho wedi’i chyflawni i safon glinigol briodol. Nid oedd yn bosib cadarnhau’n bendant beth achosodd anaf isgemig aciwt B, ond roedd y ddau bosibilrwydd a gynigiwyd gan y Bwrdd Iechyd yn rhesymol. Roedd un gwall ffeithiol yn yr adroddiad SIR. Disgrifiwyd bod B wedi cael ei ryddhau’n dilyn adferiad llawn o’i fraich dde uchaf ond bod ganddo smotiau piws / duon dros ewinedd trydydd a phedwerydd bys ei law a disgrifiodd Ms A fod B, ddwy flynedd yn ddiweddarach, yn dal i fod heb ewinedd ar y bysedd hyn a’u bod fel teulu’n wynebu ansicrwydd ynglŷn â’i ddyfodol. Roedd y Bwrdd Iechyd eisoes wedi ymddiheuro am y gwall ac wedi newid yr adroddiad SIR. Ni argymhellwyd camau cywiro pellach.