Cwynodd Mrs X nad oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi ymateb i’w chŵyn a gyflwynwyd 6 mis yn ôl ynghylch amseroedd aros gormodol ar gyfer llawdriniaeth orthopedig ddewisol ei mam i gael clun newydd gyflawn.
Daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi ymateb i gŵyn Mrs X yn unol â’i broses gwyno. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi ansicrwydd, rhwystredigaeth ac anghyfleustra i Mrs X. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Gofynnodd yr Ombwdsmon i’r Bwrdd Iechyd roi ei ymateb ffurfiol i’r gŵyn, a ddylai gynnwys diweddariad mewn perthynas â statws yr arhosiad am lawdriniaeth orthopedig ddewisol, a chytunodd y Bwrdd Iechyd i wneud hynny. Dylai’r ymateb hefyd gynnwys ymddiheuriad am yr oedi ac am beidio â rhannu’r wybodaeth ddiweddaraf yn rheolaidd.