Dyddiad yr Adroddiad

11/12/2024

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202405669

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs X nad oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi rhoi ymateb iddi, a’i bod wedi bod yn aros am fwy na blwyddyn i’w dderbyn.

Canfu’r Ombwdsmon bod y Bwrdd Iechyd wedi ymateb i gŵyn gyntaf Mr X ym mis Medi 2023. Fodd bynnag, gofynnwyd iddi wedyn gyflwyno ail gŵyn ym mis Mai 2024, ac nid oedd y Bwrdd Iechyd wedi ymateb i’r ail gŵyn. Dywedodd fod hyn wedi achosi ansicrwydd a rhwystredigaeth i Mrs X. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Gofynnodd yr Ombwdsmon i’r Bwrdd Iechyd roi ymateb i’r gŵyn o fewn pythefnos, a chytunodd y Bwrdd Iechyd i wneud hynny.