Dyddiad yr Adroddiad

29/11/2024

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202405370

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Miss S fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi methu ag ymateb i’w chŵyn, ynghylch tynnu ei gofal a’i thriniaeth yn ôl a dadlau â hi o flaen cleifion, a wnaed ym mis Ebrill 2024.

Canfu’r Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi methu ag ysgrifennu at Miss S yn ystod ei ymchwiliad i roi’r wybodaeth ddiweddaraf iddi am yr ymchwiliad. Roedd hynny wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd ychwanegol i Miss S. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd, a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ysgrifennu at Miss S, o fewn pythefnos, i ymddiheuro am fethu â rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf iddi a chynnig £100 am yr anhwylustod.