Dyddiad yr Adroddiad

08/08/2023

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202201905

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Roedd cwyn Mr B yn ymwneud â safon y gofal a roddwyd ym mis Mehefin 2021 i’w ddiweddar fam, Mrs A, pan gafodd ei throsglwyddo o’r Uned Gofal Dwys (ICU) i ofal ar y ward. Yn benodol, lleisiodd bryderon ynghylch y trefniadau ar gyfer trosglwyddo i’r ward, a p’un a gafodd Mrs A asesiad poen a meddyginiaeth briodol ar y ward ar ôl iddi gael ei throsglwyddo.
Canfu’r Ombwdsmon y dylai atgyfeiriad at y tîm Gofal Lliniarol fod wedi’i wneud cyn i Mrs A gael ei rhyddhau o’r Uned Gofal Dwys. Byddai hyn wedi helpu i sicrhau parhad gofal wrth drosglwyddo i ofal ar y ward. Cafodd y rhan hwn o’r gŵyn ei gadarnhau.

Mewn perthynas â’r feddyginiaeth a roddwyd, canfu’r Ombwdsmon fod staff y ward wedi parhau â’r un drefn meddyginiaeth, gan ddefnyddio’r un siartiau asesu poen a meddyginiaeth a ddechreuwyd yn yr Uned Gofal Dwys. Roedd y dystiolaeth yn dangos asesiad rheolaidd o boen a bod meddyginiaeth yn cael ei rhoi pan oedd angen, ac ni chafodd yr agwedd hon ar y gŵyn ei chadarnhau.

Cadarnhaodd y Bwrdd Iechyd ei fod, o ganlyniad i’r gŵyn, wedi adolygu’r rhestr wirio a ddefnyddir adeg rhyddhau o’r Uned Gofal Dwys i alluogi trosglwyddo’n ddidrafferth i ofal ar y ward. Roedd hyn yn cynnwys sicrhau bod cleifion perthnasol wedi cael eu hatgyfeirio at y tîm Gofal Lliniarol. Roedd hefyd wedi darparu hyfforddiant gofal lliniarol ychwanegol i staff ac roedd yn ystyried defnyddio offeryn asesu poen ymddygiadol.