Dyddiad yr Adroddiad

06/30/2023

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202107242

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Ms A am y gofal a gafodd yn Ysbyty Nevill Hall, sy’n cael ei reoli gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (“y Bwrdd Iechyd”), yn ystod gwahanol gamau ei beichiogrwydd a’i gofal ôl-enedigol. Yn ogystal, cwynodd Ms A am y diffyg cymorth bwydo ar y fron a methiant i gefnogi cyswllt croen-i-groen gyda’i mab ar ôl iddo gael ei eni. Roedd hefyd yn anfodlon â rheolau ymweld yr Uned Babanod Newydd-anedig. Er bod cyflwr iechyd meddwl Ms A yn golygu ei bod yn bodloni’r meini prawf ar gyfer cymorth ychwanegol, cyfeiriodd Ms A at y diffyg addasiadau rhesymol a wnaed ar ei rhan yn dilyn newidiadau yng nghanllawiau COVID-19 Llywodraeth Cymru ym mis Gorffennaf 2020. Yn olaf, roedd Ms A yn anfodlon â’r ffordd y deliodd y Bwrdd Iechyd â’r gŵyn a pha mor gadarn oedd ymateb y Bwrdd i’r gŵyn.

Canfu ymchwiliad yr Ombwdsmon fod methu ystyried neu wneud addasiadau rhesymol yn thema reolaidd yng nghwynion Ms A. Daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad, o ran gofal cynenedigol Ms A, nad oedd fawr ddim tystiolaeth yng nghofnodion y Bwrdd Iechyd (heblaw ambell enghraifft brin) i ddangos bod addasiadau rhesymol wedi cael eu hystyried na fod Canllawiau Llywodraeth Cymru ym mis Gorffennaf 2020 wedi cael eu rhoi ar waith yn achos Ms A.

Unwaith eto, wrth i Ms A roi genedigaeth ac yn y gofal ôl-enedigol, roedd methiannau gan y Bwrdd Iechyd o ran ei ddyletswyddau cydraddoldeb, elfennau o reoli poen Ms A (yn ystod y cyfnod esgor cynnar), a chyfathrebu â hi. Daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad y byddai hyn wedi cyfrannu at wneud i Ms A deimlo ei bod wedi cael profiad geni “gwael”. Canfu’r Ombwdsmon y gellid bod wedi gwneud mwy i gefnogi Ms A gyda bwydo ar y fron a chyswllt croen-i-groen, ac fel rhan o hyn, gellid bod wedi ystyried addasiadau rhesymol ynghylch trefniadau ymweld yn yr uned babanod newydd-anedig. Cadarnhaodd yr Ombwdsmon gwynion Ms A i raddau amrywiol ac roedd ei hargymhellion yn cynnwys y Bwrdd Iechyd yn ymddiheuro i Ms A am y methiannau a nodwyd; darparu hyfforddiant i’w staff mamolaeth ar eu dyletswyddau cydraddoldeb wrth wneud addasiadau rhesymol ac os na wnaeth hynny, cysylltu â’i Swyddog Cydraddoldeb fel rhan o’i broses gwyno lle codwyd addasiadau rhesymol mewn cwyn.