Cwynodd Mr A am y gofal a’r driniaeth a ddarparwyd i’w ddiweddar wraig, Mrs A. Yn benodol, cwynodd Mr A fod y Bwrdd Iechyd wedi methu:
• Cymryd camau priodol i atal a rheoli niwed i’r croen yn ystod arhosiad Mrs A yn yr ysbyty rhwng 13 Mai a 21 Mehefin 2021;
• Rhoi cynllun gofal priodol ar waith i atal a rheoli rhagor o niwed i’r croen cyn i Mrs A gael ei rhyddhau o’r ysbyty ar 21 Mehefin 2021;
• Darparu gofal priodol yn y gymuned ar gyfer niwed i groen Mrs A rhwng mis Mehefin a mis Medi 2021; a
• Trefnu atgyfeiriad amserol i’r gwasanaeth hyfywedd meinwe mewn perthynas â niwed croen Mrs A.
Canfu’r ymchwiliad, yn dilyn rhyddhau Mrs A ar 21 Mehefin, fod oedi gyda’r atgyfeiriad at y nyrs ardal a’i fod yn anghyflawn, a’i bod wedi dioddef anghyfiawnder o ganlyniad. Yn unol â hynny, cadarnhaodd yr Ombwdsmon y rhan honno o’r gŵyn. Canfu’r ymchwiliad fod y gofal a’r driniaeth a roddwyd i Mrs A fel arall yn ystod ei harhosiad yn yr ysbyty rhwng mis Mai a mis Hydref 2021 a’r gofal a roddwyd gan y nyrs ardal wedi bod yn rhesymol ac yn briodol. Am y rheswm hwn, ni chafodd y cwynion eraill eu cadarnhau.
Cytunodd y Bwrdd Iechyd ag argymhellion yr Ombwdsmon i ymddiheuro i Mr A am y methiannau a’r anghyfiawnder a nodwyd ac i atgoffa staff perthnasol o bwysigrwydd gwneud atgyfeiriadau amserol a chyflawn ar gyfer gofal gan nyrsys ardal wrth drefnu i ryddhau cleifion sydd mewn perygl uchel iawn o gael niwed i’r croen oherwydd pwysau arno.