Dyddiad yr Adroddiad

06/15/2023

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202208427

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Roedd tad Mrs A, Mr B, yn dioddef o bryder difrifol ac roedd ofn ysbytai arno. Cwynodd fod y Bwrdd Iechyd wedi anwybyddu ei gais i drefnu ei gludiant ei hun o’r ysbyty i Ganolfan Ganser Felindre. Hefyd, bod y Bwrdd Iechyd wedi methu cydnabod hawl Mr B i ymreolaeth drwy ei gludo a defnyddio offer atal yn erbyn ei ddymuniadau.

Nododd yr Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd eisoes wedi cydnabod bod diffyg tystiolaeth ddogfennol o sgyrsiau gyda Mr B a/neu ei deulu, ac na allai gadarnhau a oedd y Tîm Llawfeddygol wedi cwblhau asesiad risg ai peidio.

Yn lle ymchwilio i’r gŵyn, aeth yr Ombwdsmon ati geisio a chael cytundeb y Bwrdd Iechyd i roi ymddiheuriad ysgrifenedig pellach, o fewn 20 diwrnod gwaith, i Mrs A oherwydd bod y profiad wedi rhoi rheswm iddi gwyno; rhannu’r gŵyn â’r timau nyrsio i roi cyfle i ddysgu ac ymarfer myfyriol ar hawl claf i ymreolaeth; atgoffa’r timau nyrsio o bwysigrwydd sicrhau bod dogfennau’n cael eu cwblhau’n llawn a bod cleifion yn rhan o’u gofal i ganiatáu iddynt wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth.