Dyddiad yr Adroddiad

06/12/2023

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202300555

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms S fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi methu darparu gofal a thriniaeth briodol i’w diweddar fam. Cwynodd ymhellach, er bod y Bwrdd Iechyd wedi dweud bod rhagor o ymchwiliadau’n cael eu cynnal i ofal ei mam, nad oedd wedi cael ymateb eto.

Canfu’r Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi cytuno i ymchwilio ymhellach i bryderon Ms S ond nad oedd wedi bod yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf nac amserlen iddi o ran yr ymchwiliad. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth a gofid pellach i Ms S.

Yn lle ymchwiliad, ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i ymddiheuro i Ms S am yr oedi, i ddarparu unrhyw ymatebion nas cafwyd, ac i roi taliad amser a thrafferth o £250 iddi o fewn 6 mis.