Dyddiad yr Adroddiad

06/02/2023

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202300526

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr A i Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (“y Bwrdd Iechyd”) am y gofal a’r driniaeth a roddwyd i’w ddiweddar wraig, Mrs A, gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro (“BIPCF”) ac Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (“yr Ymddiriedolaeth”). Cwynodd Mr A wrth yr Ombwdsmon, yn dilyn ymateb y Bwrdd Iechyd, nad oedd wedi cael atebion i’r holl gwestiynau a godwyd ganddo.

Canfu’r Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi cymryd yr awenau o ran cydlynu ymchwiliad/ymateb i Mr A, a hynny ar y cyd â BIPCF a’r Ymddiriedolaeth. Fodd bynnag, nid oedd holl bryderon Mr A am BIPCF wedi cael sylw ac nid oedd wedi cael unrhyw ymateb o gwbl gan yr Ymddiriedolaeth. Er bod y Bwrdd Iechyd wedi egluro bod yr Ymddiriedolaeth yn cyhoeddi ymateb ar wahân i gŵyn fel arfer, roedd dyletswydd arni o hyd i sicrhau bod Mr A yn cael ymateb cydlynol i’w gŵyn ac roedd y Bwrdd Iechyd wedi methu gwneud hynny.

Er mwyn datrys cwyn Mr A, cytunodd y Bwrdd Iechyd, o fewn 30 diwrnod gwaith, i roi ymddiheuriad ysgrifenedig iddo am y methiant i ddarparu ymateb cydlynol, a oedd yn mynd i’r afael â phob agwedd ar ei gŵyn a hefyd i ddarparu ymateb ysgrifenedig pellach i Mr A a oedd yn rhoi sylw i bob agwedd ar ei gŵyn, gan gynnwys y rhai sy’n ymwneud â’r gofal a’r driniaeth a ddarparwyd gan BIPCF a’r Ymddiriedolaeth.