Dyddiad yr Adroddiad

05/11/2023

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202205980

Canlyniad

Rhoddwyd y gorau

Cododd Mrs X bryder bod arwyddion o ganser ei diweddar ŵr wedi’u methu ar y pelydr-X o’i frest a gynhaliwyd ym mis Mai 2021. Derbyniodd ddiagnosis o ganser datblygedig yn ddiweddarach ym mis Hydref 2021 ac yn anffodus bu farw’n fuan ar ôl hynny.

Ar ôl ceisio cyngor clinigol ar y sganiau, canfu’r Ombwdsmon nad oedd unrhyw dystiolaeth o falaenedd ar y pelydr-X cynharach o’r frest, nac unrhyw beth a ddylai fod wedi ysgogi ymchwiliadau dilynol. Roedd y sganiau dilynol a gymerwyd ym mis Hydref 2021, pan wnaed y diagnosis, yn amlwg yn dangos datblygiad eang o diwmorau yn yr ysgyfaint a’r afu, gan ddangos canser anarferol o ymosodol.

Gan fod yr Ombwdsmon yn fodlon na chafodd unrhyw beth ei golli ar y sganiau, ni chanfu unrhyw reswm dros barhau â’r ymchwiliad.