Dyddiad yr Adroddiad

05/30/2023

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202300880

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs A i Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan am y gofal a’r driniaeth a roddwyd i’w diweddar ŵr, Mr A. Ar ôl derbyn ymateb y Bwrdd Iechyd i’w chwyn, Mrs A yn parhau i fod yn anfodlon, gan ei bod o’r farn nad oedd yn mynd i’r afael â’r materion a godwyd ganddi ac yn creu mwy o gwestiynau nag a atebodd.

Canfu’r Ombwdsmon nad oedd ymateb y Bwrdd Iechyd wedi mynd i’r afael â phob un o’r pryderon a godwyd gan Mrs A, a’i fod mewn gwirionedd wedi codi cwestiynau pellach ynglŷn â’r gofal a ddarparwyd i Mr A, gan gynnwys datgelu bod rhai o gofnodion Mr A ar goll, rhywbeth nad oedd Mrs A yn ymwybodol ohono cyn hyn.

Cysylltodd yr Ombwdsmon â’r Bwrdd Iechyd ac er mwyn datrys cwyn Mrs A cytunodd i gynnig cyfle, o fewn 10 diwrnod gwaith, iddi drafod y pryderon a oedd heb eu datrys. O fewn 20 diwrnod gwaith i gynnig y cyfarfod (os bydd Mrs A yn gwrthod y gwahoddiad) neu ddyddiad y cyfarfod ei hun, cytunwyd i ddarparu ymateb pellach i Mrs A, sy’n mynd i’r afael â’r holl bryderon a oedd heb eu datrys a godwyd mewn cysylltiad â thriniaeth Mr A.