Dyddiad yr Adroddiad

02/10/2023

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202205532

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Mrs X am y gofal a’r driniaeth a dderbyniodd ei diweddar ŵr gan y Bwrdd Iechyd yn 2021. Nid oedd yr ymateb cychwynnol i’w chŵyn wedi ateb ei phryderon i gyd, ac yn anghyson ac anghywir ar rai pethau. Mewn cyfarfod ym mis Medi 2022, cytunwyd i edrych eto ar yr ymchwiliad i’r gŵyn ac i anfon llythyr ymateb terfynol at Mrs X.

Casglodd yr Ombwdsmon er bod peth cynnydd wedi’i wneud, nad oedd ymateb ffurfiol i’r gŵyn wedi’i roi. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwilio.

Felly cytunodd y Bwrdd Iechyd y byddai, o fewn un mis, yn ymddiheuro’n ysgrifenedig i Mrs X am fethu ag ymchwilio’n llawn i’w phryderon cychwynnol, ac yn ymateb i’w chŵyn yn ymwneud â’r pryderon oedd heb eu hateb. Cytunodd i dalu £150 i Mrs X i gydnabod y methiannau a’r amser, trafferth a gofid ychwanegol a achoswyd iddi’n gorfod codi cwyn gyda’r Bwrdd Iechyd a’r Ombwdsmon. Cytunodd, o fewn deufis, i roi ymateb ysgrifenedig ffurfiol i gŵyn Mrs X am y pryderon oedd heb gael ateb.

Barnodd yr Ombwdsmon fod y camau uchod yn rhesymol er mwyn setlo cwyn Mrs X.