Dyddiad yr Adroddiad

28/01/2026

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202505289

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs A am y gofal a’r driniaeth a roddwyd i’w diweddar ŵr, Mr B, mewn perthynas â rhwystr yn y coluddyn mawr a chulhad yn y coluddyn sigmoid. Yn dilyn cyngor a gafodd mewn apwyntiad fel claf allanol ym mis Ebrill 2024, dewisodd Mr B gael ymchwiliadau pellach, yn hytrach na llawdriniaeth. Erbyn yr apwyntiad nesaf, roedd ei iechyd wedi dirywio i’r graddau nad oedd llawdriniaeth bellach yn addas. Dywedodd Mrs A fod symptomau Mr B yn gwaethygu, ond er hynny ni chafodd ei dderbyn i’r ysbyty i gael maeth, i’w fonitro, nac i roi llawdriniaeth amserol iddo. Yn anffodus, bu farw Mr B ar ôl cael ei dderbyn i’r ysbyty fel achos brys ac ar ôl cael llawdriniaeth ym mis Medi 2024. Roedd Mrs A yn anfodlon ag ymateb y Bwrdd Iechyd i’r gŵyn.

Nid oedd y Bwrdd Iechyd yn gallu darparu cofnodion ar gyfer yr apwyntiad perthnasol yn yr adran cleifion allanol. Canfu’r Ombwdsmon fod hyn yn codi pryderon ynghylch dull y Bwrdd Iechyd o gadw cofnodion. O ganlyniad, pe bai’r Ombwdsmon yn ymchwilio i gŵyn Mrs A, byddai’n anodd gwybod gydag unrhyw sicrwydd beth a drafodwyd er mwyn penderfynu a roddwyd y cyngor priodol. Roedd hyn yn achosi ansicrwydd ac anghyfiawnder i Mrs A. Penderfynodd yr Ombwdsmon ddatrys y gŵyn heb ymchwiliad.

Cytunodd y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro’n ysgrifenedig i Mrs A o fewn 4 wythnos am y diffyg cofnodion clinigol mewn perthynas â’r ymgynghoriad perthnasol, ac am y ffaith bod hyn wedi atal yr Ombwdsmon rhag ymchwilio i’r mater. Cytunodd hefyd, o fewn 4 wythnos, i roi ymateb pellach i gŵyn Mrs A yn nodi’r pwyntiau i’w dysgu a ganfuwyd a’r camau a gymerwyd o ganlyniad i hynny.