Roedd cwyn Mrs P yn ymwneud â’r meddyginiaethau a roddwyd i’w diweddar ŵr (Mr P) yn ystod y cyfnod a dreuliodd yn Ysbyty Gwynllyw rhwng Awst a Hydref 2023, ac a oedd y meddyginiaethau hynny’n briodol.
Canfu’r Ombwdsmon fod Mr P yn achos cymhleth a bod lefelau’r feddyginiaeth yn adlewyrchu ei ymddygiad a pha mor anghyffredin ydoedd. Er nad oedd y rhesymeg dros ragnodi rhai meddyginiaethau yn glir yn y nodiadau meddygol bob amser, yn gyffredinol, roedd y risgiau a’r buddion wedi’u hystyried yn ddigonol ac roedd y meddyginiaethau’n briodol.
Ni chafodd y gŵyn ei chadarnhau.