Dyddiad yr Adroddiad

23/06/2025

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202500109

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs A am y gofal a’r driniaeth a ddarparwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (‘y Bwrdd Iechyd’) mewn perthynas â phroblemau gynaecolegol. Cwynodd Mrs A ei bod wedi mynychu’r Adran Achosion Brys ar sawl achlysur ond ar bob achlysur, cafodd ei rhyddhau heb gynllun, atebion na dealltwriaeth o’r hyn a ddigwyddodd. Cwynodd Mrs A ymhellach am ei phrofiad yn ystod derbyniad i’r ysbyty, pan gafodd lawdriniaeth frys.

Canfu’r Ombwdsmon fod Mrs A wedi gwneud 2 gŵyn, ond bod y rhain wedi cael eu datrys yn gynnar, heb ymchwiliad. Ni ddigwyddodd yr apwyntiad dilynol a addawyd. Ni wnaeth yr atgyfeiriad at gynaecoleg ddatrys y materion a chodi problemau pellach i Mrs A. Nid yw Mrs A wedi cael ymateb cwyn ffurfiol yn mynd i’r afael â’i phryderon. Mae hyn wedi achosi oedi, ansicrwydd a rhwystredigaeth i Mrs A. Cytunodd yr Ombwdsmon i setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Cytunodd y Bwrdd Iechyd, o fewn 6 wythnos, i roi ymateb cwyn ffurfiol i Mrs A, gan fynd i’r afael â’r holl bryderon a godwyd gyda’r Bwrdd Iechyd a’r Ombwdsmon, ynghyd ag ymddiheuriad am y methiant i ymchwilio’n ffurfiol i’w phryderon yn flaenorol.