Cwynodd Mrs A nad oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi rhoi sylw i bryderon a godwyd ganddi ym mis Awst 2024 ac nad oedd wedi cwblhau ail ymchwiliad i farwolaeth drist ei mab.
Cafodd yr Ombwdsmon ragor o wybodaeth gan y Bwrdd Iechyd a phenderfynodd er bod Mrs A yn anhapus â’r modd y rhoddwyd sylw i’w phryderon, mi oedd wedi cynhyrchu cynllun gweithredu sylweddol ac wedi parhau i ohebu’n briodol â Mrs A. Roedd yr Ombwdsmon yn cydnabod fod yr ail ymchwiliad yn un cymhleth a bod yn rhaid cysylltu â chlinigwyr sydd wedi gadael y Bwrdd Iechyd. Fodd bynnag, penderfynodd yr Ombwdsmon fod yr ymchwiliad ar waith o hyd heb syniad o ba bryd y byddai wedi’i gwblhau. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a sicrhaodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro i Mrs A am yr oedi ac i gwblhau’r ail ymchwiliad o fewn 3 mis.