Cwynodd Mrs B ynghylch a gymerodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan gamau digonol i ymchwilio ac ymateb i honiad bod aelod staff asiantaeth wedi darparu meddyginiaeth heb ei rhagnodi i’w gŵr, Mr B, ar 8 Chwefror 2024.
Canfu’r ymchwiliad fod y Bwrdd Iechyd wedi cymryd camau digonol i ymchwilio ac ymateb i’r honiad bod aelod o staff wedi rhoi meddyginiaeth heb ei rhagnodi i Mr B. Ni wnaeth yr Ombwdsmon gadarnhau’r gŵyn.