Cwynodd Ms B i Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ynghylch y driniaeth roedd ei thad wedi’i chael pan oedd yn yr ysbyty.
Canfu’r Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi methu ag ymateb yn ffurfiol i gŵyn Ms B, ac wedi ymateb yn anffurfiol yn unig. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro i Ms B am beidio â rhoi sylw i’w phryderon drwy’r weithdrefn gwyno ffurfiol ac i egluro pam y digwyddodd hyn. Cytunodd y Bwrdd Iechyd hefyd i ymateb yn ffurfiol i’r gŵyn o fewn 5 wythnos.