Dyddiad yr Adroddiad

20/12/2024

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202406627

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs X nad oedd Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan wedi gallu dod o hyd i achos ei phoen cefn gwanhaol ar ôl sawl sgan.  Dywedodd Mrs X ei bod wedi gorfod talu’n breifat i sefydlu bod y Bwrdd Iechyd wedi anwybyddu disg torgestol yn ei chefn.

 

Daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi darparu ymateb ffurfiol i’r gŵyn er mwyn mynd i’r afael â phryderon Mrs x mewn perthynas â dehongli a chywirdeb canlyniadau’r sgan MRI.  Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi ansicrwydd, rhwystredigaeth ac anghyfleustra i Mrs X. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

 

Gofynnodd yr Ombwdsmon i’r Bwrdd Iechyd roi ei ymateb i’r gŵyn er mwyn mynd i’r afael â’r pryderon uchod, a chynnig ymddiheuriad ac esboniad am yr oedi cyn ymateb o fewn 6 wythnos, a chytunodd y Bwrdd Iechyd i wneud hynny.