Cwynodd Miss D am y gofal a’r driniaeth a gafodd gan Ymddiriedolaeth y GIG Dyffryn Gwy (“yr Ymddiriedolaeth”) ar ran Bwrdd Iechyd Addysgu Powys (“y Bwrdd Iechyd”). Fe wnaethom ymchwilio i weld a gafodd Miss D y gofal priodol yn dilyn llawdriniaeth frys yn Ysbyty Henffordd (“yr Ysbyty Cyntaf” – a oedd yn cael ei redeg gan yr Ymddiriedolaeth) ym mis Mai 2022, gan ystyried ei chyflwr niwrolegol sylfaenol a mewnbwn yr arbenigwr.
Canfu’r ymchwiliad nad oedd cyfleoedd wedi’u colli i gyfeirio Miss D at niwrolegydd yn gynt yn dilyn ei llawdriniaeth frys. Canfu hefyd ei bod wedi cael gofal priodol ar ôl iddi gael ei throsglwyddo i Ysbyty Cymuned Bromyard (“yr Ail Ysbyty” – a oedd yn cael ei redeg gan yr Ymddiriedolaeth), a bod ymchwiliadau priodol wedi cael eu cynnal dan arweiniad niwrolegydd.
Canfu’r ymchwiliad fod methiant i roi ffisiotherapi i Miss D yn ystod ei chyfnod yn yr Ysbyty Cyntaf, er bod cais wedi bod am hyn yn dilyn y llawdriniaeth. Collwyd cyfle fan hyn i gynnig ymarferion a allai fod wedi lleihau’r boen a’r anghysur a brofodd wrth iddi gael ei throsglwyddo i’r Ail Ysbyty. I’r graddau cyfyngedig hyn, cafodd y gŵyn ei chadarnhau.
Fe wnaeth yr Ombwdsmon argymhellion i’r Bwrdd Iechyd gan mai’r bwrdd oedd yn gyfrifol yn y pen draw am y gofal a ddarparwyd. Cytunodd y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro i Miss D a thalu £500 iddi i adlewyrchu’r anghyfiawnder a achoswyd yn sgil methiant yr Ymddiriedolaeth i ddarparu gofal ffisiotherapi yn yr Ysbyty Cyntaf.
Cytunodd hefyd i ofyn, fel rhan o’i drefniadau comisiynu, i’r Ymddiriedolaeth drefnu i’r adroddiad gael ei drafod mewn cyfarfod llywodraethu clinigol perthnasol ac i atgoffa clinigwyr perthnasol am bwysigrwydd cynnal a dogfennu archwiliadau niwrolegol pan fydd pryder niwrolegol yn codi, a dogfennu trafodaethau priodol gyda chleifion pan fyddan nhw’n codi pryderon am eu gofal.