Dyddiad yr Adroddiad

09/27/2023

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202200222

Canlyniad

Ni Chadarnhawyd

Cwynodd Mrs A am y gofal a’r driniaeth a gafodd ei mam, Mrs D, gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (“y Bwrdd Iechyd”) yn Ysbyty’r Tywysog Siarl (“yr ysbyty”). Yn benodol, roedd Mrs A yn pryderu bod y Bwrdd Iechyd wedi methu darparu gwasanaeth rheoli poen amserol a phriodol i’w mam yn ystod ei harhosiad yn yr ysbyty. Roedd hi hefyd o’r farn bod y Bwrdd Iechyd wedi gwneud y penderfyniad i gategoreiddio Mrs D fel rhywun oedd angen gofal lliniarol yn rhy gynnar a bod y Bwrdd wedi gwneud hyn heb roi eglurhad digonol ynghylch y mater i’w theulu. Yn olaf, cwynodd Mrs A bod y Bwrdd Iechyd wedi methu ymchwilio’n briodol i symptomau Mrs D ac wedi methu eu trin yn briodol oherwydd bod ei mam wedi cael ei chategoreiddio fel rhywun oedd angen gofal lliniarol.

Canfu’r ymchwiliad bod y gofal a’r driniaeth a gafodd Mrs D yn ystod ei derbyniad i’r Ysbyty ym mis Mehefin 2021, at ei gilydd, yn rhesymol ac yn briodol. Ni wnaeth yr Ombwdsmon gadarnhau’r gŵyn. Yn benodol, canfu’r Ombwdsmon ei fod yn briodol bod y clinigwyr wedi cyfeirio Mrs D at y Tîm Gofal Lliniarol pan wnaethon nhw. Serch hynny, nid oedd yn glir a roddwyd eglurhad i deulu Mrs D adeg yr atgyfeiriad dan sylw. Canfu’r Ombwdsmon nad yw peidio ymgynghori â pherthnasau cyn gwneud atgyfeiriad o’r fath yn beth anarferol. Ni wnaeth yr Ombwdsmon gadarnhau’r elfen hon o’r gŵyn, ond gwahoddodd y Bwrdd Iechyd i ystyried y ffordd y rhoddir gwybod i aelodau o deulu claf ynghylch atgyfeiriad gofal lliniarol.