Dyddiad yr Adroddiad

09/15/2023

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202301132

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms X am amrywiol agweddau ar y gofal nyrsio a gafodd ei merch pan oedd hi’n glaf mewnol yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg ym mis Mawrth 2022. Er bod y Bwrdd Iechyd wedi rhoi ymateb ffurfiol i gŵyn Ms X, nid oedd wedi ymateb i ohebiaeth bellach mewn perthynas â’r gŵyn. Cwynodd Ms X i’r Ombwdsmon.

Nododd yr Ombwdsmon nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi ymateb i rai pryderon ac agweddau ar y gŵyn oedd eto i’w datrys.

Felly cytunodd y Bwrdd Iechyd i wneud y canlynol (cyn pen 6 wythnos):

• Darparu ymateb ysgrifenedig ffurfiol i’r pwyntiau roedd Ms X wedi’u codi mewn perthynas â’i chwyn ynghylch y gofal a gafodd ei merch fel claf mewnol.

• Darparu ymddiheuriad ysgrifenedig am y ffaith na ddarparwyd ymateb ffurfiol i’r pwyntiau roedd hi wedi’u codi yn ei neges e-bost yn gynt, a’r ffaith nad oedd yn glir a oedd ymateb o’r fath yn mynd i gael ei ddarparu.

• Os bydd Ms X (cyn pen 6 wythnos) yn rhoi manylion penodol am ei chwyn ynglŷn ag asesiad galluedd a gynhaliwyd gan staff y Bwrdd Iechyd yn ystod arhosiad ei merch yn yr ysbyty fel claf mewnol, bydd y Bwrdd Iechyd yn ystyried hyn yn gŵyn newydd a bydd yn ymateb yn unol â’r amserlenni sydd wedi’u nodi yn y ddogfen Gweithio i Wella (rheoliadau cwynion y GIG).