Dyddiad yr Adroddiad

09/01/2023

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202300236

Canlyniad

Ni Chadarnhawyd

Cwynodd Miss W am y gofal a’r driniaeth a gafodd ei mab, Mr X, pan oedd yn Ysbyty Tywysoges Cymru (“yr Ysbyty”) rhwng 14 Ionawr a 22 Ionawr 2023. Cwynodd yn benodol y dylai Mr X fod wedi cael ei dderbyn i’r Ysbyty pan aethpwyd ag ef yno ar 4 achlysur o ganlyniad i ymddygiad hunan-niweidiol oedd yn cynnwys ceisio crogi ei hun.

Canfu’r Ombwdsmon bod Mr X wedi cael ei asesu’n briodol pan aeth i’r Ysbyty ac y rhoddwyd cynlluniau rhesymol ar waith i’w gadw’n ddiogel yn y gymuned. Roedd yr Ysbyty hefyd wedi rhagnodi meddyginiaeth briodol ar ei gyfer. Felly, ni chadarnhawyd y gŵyn hon.