Dyddiad yr Adroddiad

08/10/2023

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202106889

Canlyniad

Ni Chadarnhawyd

Cwynodd Mrs Q am y gofal a’r driniaeth a gafodd ei diweddar ŵr, Mr Q, yn Ysbyty’r Tywysog Siarl (“yr Ysbyty”) ar gyfer ei gyflwr Lymffoma nad yw’n Hodgkin (“NHL”) ac mewn perthynas â’i dderbyniadau i’r ysbyty ar ôl hynny gyda COVID-19. Yn benodol, cwynodd Mrs Q am y canlynol:

• Methwyd â chasglu sampl ddigonol o feinwe yn ystod sgan arbenigol a gynhaliwyd ar 27 Ionawr 2020, a bu’n rhaid ei ail-gynnal. Roedd hyn yn drawmatig i Mr Q ac wedi peri oedi cyn iddo gael diagnosis.
• Rhoddwyd gwybod i Mr Q fod yr ail fiopsi yn dangos cyflwr y gellir ei drin a’i wella, ond yn ddiweddarach cafodd hynny ei newid i gyflwr y gellir ei drin ond na ellir ei wella. Roedd y diagnosis anghywir hwn wedi achosi trawma difrifol i Mr a Mrs Q ac ni chawsant wasanaeth cwnsela na chymorth priodol.
• Ni chafodd sgan arbenigol arall, y gofynnwyd amdano ar 15 Mehefin 2020, ei wneud na’i adrodd tan 14 Awst 2020. Roedd hyn wedi achosi oedi niweidiol i driniaeth cemotherapi barhaus Mr Q.
• Er bod ganddo nam ar ei system imiwnedd ac yn agored i niwed, gwrthododd clinigwyr yr Adran Achosion Brys a’r Haematolegydd Ymgynghorol dderbyn Mr Q i’r ysbyty pan gafodd brawf positif am COVID-19, ac eto ar 26 Rhagfyr 2020 pan ddirywiodd ei gyflwr.
• Yn dilyn hynny, cafodd Mr Q ei dderbyn fel claf brys i’r Ysbyty ar 9 Ionawr 2021 gyda COVID-19 a niwmonia. Fodd bynnag, cafodd ei ryddhau’n gynnar 2 ddiwrnod yn ddiweddarach heb gael ei adolygu gan y Tîm Hematoleg. Gadawyd y cyfrifoldeb o reoli ei feddyginiaeth i’w feddyg teulu. Dirywiodd eto ar ôl dod adref a bu’n rhaid iddo ddychwelyd i’r ysbyty ar 18 Ionawr 2021. Ei feddyg teulu a reolodd ei dderbyn i’r ysbyty y tro hwn hefyd gan fod y Tîm Hematoleg wedi gwrthod trefnu.
• Tra’r oedd ar Ward Anadlol COVID-19 ac ar ôl iddo gael ei drosglwyddo i’r Uned Gofal Dwys (“ICU”) (lle bu farw ar 4 Chwefror), ni chafodd Mr Q ei adolygu gan y Tîm Hematoleg; ac yn ystod y cyfnod hwn ni chafodd ei deulu wybod unrhyw beth am ei gyflwr.

Canfu ymchwiliad yr Ombwdsmon:

• Ni wnaeth ail fiopsi beri oedi cyn i Mr Q gael diagnosis NHL.
• Ni chafodd Mr Q ddiagnosis anghywir ar unrhyw adeg.
• Nid oedd unrhyw oedi i driniaeth cemotherapi barhaus Mr Q oherwydd sgan CT a gafodd ei drefnu’n gywir.
• Er bod Mr Q wedi cael canlyniad positif am COVID-19, nid oedd ei symptomau a’i ymddangosiad yn awgrymu y dylid ei dderbyn i’r ysbyty.
• Cafodd Mr Q ei ryddhau’n briodol o’r ysbyty gan fod ei gyflwr wedi gwella.
• Roedd y Tîm Hematoleg wedi cyfathrebu’n briodol â’r Ward Anadlol a’r Uned Gofal Dwys i reoli NHL Mr Q tra’r oedd ganddo COVID-19.

Ni wnaeth yr Ombwdsmon gadarnhau’r gŵyn.