Dyddiad yr Adroddiad

06/20/2023

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202106064

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Mr A fod toriad estynedig o nam croen ar ei fraich chwith a wnaethpwyd yn Ysbyty Castell-nedd Port Talbot ar 8 Gorffennaf 2013 (yn dilyn toriad cychwynnol ar 30 Ebrill 2013 a oedd wedi canfod melanoma malaen cam 1) wedi’i gynnal yn amhriodol ac wedi methu tynnu’r holl feinwe canseraidd yn llwyr.

Ni allai’r Ombwdsmon ddod i benderfyniad ynghylch a gymerwyd yr ymyl croen cywir yn ystod y driniaeth ar 8 Gorffennaf 2013. Fodd bynnag, canfu’r ymchwiliad fod methiant i ddogfennu’r ymyl a argymhellwyd pan ofynnwyd am y weithdrefn a bod hyn wedi cyfrannu at y diffyg manylder cyfatebol yn y nodyn llawdriniaeth. Cafodd y gŵyn ei chadarnhau i’r graddau cyfyngedig bod yr ansicrwydd a oedd yn deillio ynghylch a oedd gofal priodol wedi cael ei ddarparu yn anghyfiawnder i Mr A.

Cytunodd y Bwrdd Iechyd i weithredu argymhellion yr Ombwdsmon i ymddiheuro i Mr A am y methiannau a nodwyd a rhannu adroddiad yr ymchwiliad gyda’r Cyfarwyddwr Clinigol sy’n gyfrifol am ei wasanaeth dermatoleg ac aelodau o’i Dîm Amlddisgyblaethol sy’n ymwneud â chanser y croen.