Dyddiad yr Adroddiad

04/17/2023

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202106156

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Mrs Y ar ran ei thad, Mr X, fod oedi wedi bod gan y Bwrdd Iechyd o ran y canlynol: cynnal sgan o gefn ac abdomen Mr X; profi ar gyfer, a thrin, haint llwybr wrinol Mr X; a rhoi brechlyn ffliw i Mr X. Cwynodd hefyd fod y Bwrdd Iechyd wedi rhoi gwybod yn amhriodol i Mr X yn uniongyrchol y byddai’n cael ei ryddhau i ofal preswyl a methodd â darparu ystafell ochr iddo cyn iddo gael ei ryddhau, a ohiriodd ei drefniadau rhyddhau, am iddo ddod i gyswllt dro ar ôl tro â chleifion COVID-19.

Daeth yr ymchwiliad i’r casgliad bod y ffordd yr oedd y Bwrdd Iechyd wedi gweithredu ynglŷn â sgan Mr X a darparu ei frechlyn ffliw yn rhesymol. Canfu hefyd na achoswyd unrhyw niwed gan yr amser a gymerwyd i brofi wrin Mr X ac nad oedd angen triniaeth. Ar ben hynny, doedd dim gofyniad i ddarparu ystafell ochr i Mr X am nad oedd yn dod o fewn unrhyw un o’r categorïau blaenoriaeth. Fodd bynnag, fe wnaeth yr Ombwdsmon gadarnhau cwyn Mrs Y bod y Bwrdd Iechyd wedi rhoi gwybod yn amhriodol i Mr X yn uniongyrchol y byddai’n cael ei ryddhau i ofal preswyl.

Cytunodd y Bwrdd Iechyd ag argymhellion yr Ombwdsmon i ymddiheuro i Mrs Y am y methiant a nodwyd yn yr adroddiad hwn ac i gynnal hyfforddiant Galluedd Meddyliol i staff yn yr Ysbyty.