Dyddiad yr Adroddiad

03/15/2023

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202105778

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Buom yn ymchwilio i bryderon a godwyd gan Mr A yng nghyswllt triniaeth ei wraig, Mrs A, yn yr Ysbyty.

Canfu’r ymchwiliad fod triniaeth Mrs A yn ystod ei 2 arhosiad yn yr ysbyty yn briodol i’w symptomau ac yn unol â’r canllawiau perthnasol, ei bod yn rhesymol nad oedd canser ei hafu wedi’i ganfod yn gynharach, a bod ei gofal nyrsio yn briodol. Felly ni chadarnhawyd yr elfennau hyn o’r gŵyn. Canfu’r ymchwiliad, er bod y feddyginiaeth a ddarparwyd yn briodol i raddau helaeth, ar ôl canfod bod Mrs A yn nyddiau olaf ei bywyd (h.y. bron â marw), y gallai gweithredu llwybr gofal perthnasol fod wedi monitro’n fwy rhagweithiol unrhyw feddyginiaeth poen y gallai fod wedi elwa ohoni. Yn yr un modd, er nad oedd ystafelloedd sengl ar gael ar gyfer Mrs A yn anffodus, canfu’r ymchwiliad y dylai ei theulu fod wedi cael gwybod ei bod yn debygol o farw cyn gynted ag y cafodd hyn ei sefydlu gan staff meddygol perthnasol a’u bod yn cael ymweld o’r adeg hon (tua 4 awr yn gynharach). Oherwydd hynny, cafodd y cwynion hyn eu cadarnhau’n rhannol. Yn olaf, canfu’r ymchwiliad fod elfennau o’r ffordd yr ymdriniwyd â’r gŵyn yn anfoddhaol, ac achosi gofid pellach diangen i Mr A, a oedd yn anghyfiawnder iddo a chafodd yr elfen hon o’r gŵyn ei chadarnhau.

Argymhellodd yr ymchwiliad y dylai’r Bwrdd Iechyd ymddiheuro i Mr A am y methiannau a nodwyd, ac atgoffa staff perthnasol o bwysigrwydd adnabod cleifion yn nyddiau olaf eu bywyd, cysylltu â’u perthynas agosaf, a rhoi protocolau gofal priodol ar waith cyn gynted â phosib. Argymhellodd hefyd y dylid atgoffa staff sy’n ymwneud â delio â chwynion o bwysigrwydd sicrhau bod gwybodaeth berthnasol yn cael ei thrin yn gywir ac ystyried dulliau y gellid eu rhoi ar waith i leihau’r risg y bydd camgymeriadau tebyg yn digwydd.