Dyddiad yr Adroddiad

03/14/2023

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202201994

Canlyniad

Ni Chadarnhawyd

Cwynodd Mrs A fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (“y Bwrdd Iechyd”) wedi methu rheoli’r clwyf llawfeddygol i’w goes chwith yn briodol yn dilyn adolygiad 6 wythnos ar ôl y llawdriniaeth (gan gynnwys defnyddio dresin Jelonet yn amhriodol), a achosodd oedi sylweddol wedyn yn y broses wella.

Canfu’r Ombwdsmon ei bod yn rhesymol i ddresin Jelonet fod wedi cael ei ddefnyddio ar glwyf coes Mrs A ac nad defnyddio’r gorchudd hwn yn yr adolygiad 6 wythnos ar ôl llawdriniaeth oedd achos yr amser estynedig anffodus a phroblemus a gymerodd i glwyf Mrs A wella. Yn gyffredinol, daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad nad oedd unrhyw dystiolaeth bod y problemau a gafodd Mrs A o ran oedi wrth i’w chlwyfau wella yn deillio o unrhyw ddiffygion o ran rheoli’r clwyf. Cyfeiriwyd Mrs A hefyd at y Nyrs Hyfywedd Meinwe yn brydlon. O ganlyniad, ni wnaeth yr Ombwdsmon gadarnhau’r gŵyn.