Dyddiad yr Adroddiad

02/27/2023

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202201142

Canlyniad

Ni Chadarnhawyd

Cwynodd Mr A am y gofal a’r driniaeth a ddarparwyd i’w wraig yn y misoedd yn union cyn ei marwolaeth ym mis Mai 2021. Cwynodd Mr A fod Mrs A wedi cael ei hanfon adref o archwiliad colonosgopi claf allanol yn Ysbyty’r Tywysog Siarl ar 26 Ebrill gyda phwysedd gwaed peryglus o isel. Cwynodd hefyd fod presgripsiwn Mrs A o wrthfiotigau clarithromycin, a oedd wedi cael ei ragnodi am gyfnod o 12 mis, wedi cael ei atal yn amhriodol tra’i bod yn glaf mewnol yn yr Ysbyty rhwng 22 a 29 Mawrth. Credai y gallai’r feddyginiaeth hon fod wedi diogelu Mrs A rhag sepsis a niwmonia y bu farw ohono ar 3 Mai.

Canfu’r Ombwdsmon nad oedd angen i Mrs A gael ei derbyn i’r ysbyty ar 26 Ebrill ac ni chadarnhawyd yr elfen hon o’r gŵyn. Canfu’r ymchwiliad, er bod rhesymau posibl dros stopio’r clarithromycin ar 24 Mawrth, na chofnodwyd y rheswm dros roi’r gorau i’r feddyginiaeth. Fodd bynnag, canfuwyd hefyd, pe bai Mrs A wedi aros ar y feddyginiaeth, yn anffodus ni fyddai wedi newid y canlyniad iddi. Ar sail hynny, nid oedd y rhan hon o’r gŵyn wedi cael ei chadarnhau ychwaith.